Sefydlodd Karen fel gemydd yn 1995, yn wreiddiol o Ynys Môn, ond yn awr yn seiliedig ger Bethesda. Mae gwaith comisiwn yn cynnwys dylunio a chreu’r Goron ar gyfr Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1999 a 2008. Y mae hefyd wedi derbyn Dyfarniad Cymru Greadigol a chefnogaeth ar gyfer ei phrosiect cyfredol ‘Traeth Linau Llanddwyn’ gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae’r casgliadau Crater a Tyllu yn seiledig ar y diffiniad o’r gair ‘Tyllu – to hole, bore, perforate, pierce’. Mae trin yr arian yn gorfforol yn ganolog i gynhyrchu’r gwead dwfn. Mae’n ymchwilio i dyllau o fewn ei gwaith gan greu rhywbeth o ddim byd a defnyddio’r twll i gynhyrchu ffurf ac i newid dyfnder a gofod o fewn y darn. Mae’r ffordd hon o weithio’r metal ac adeiladu’r darn yn integrol ac mae’r dyluniadau’n adlewyrchu’r prosesau sydd wedi eu creu.
Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 18/11/16